Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (218)v2 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5570 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain am ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon y BMA ynghylch anallu Llywodraeth Cymru i recriwtio a chadw gweithlu meddygol digonol yn y GIG.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i wariant cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi galwadau gan y BMA y dylid rhoi ystyriaeth i lefelau staffio diogel a gofynnol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol. |
4 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5571 Elin Jones (Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r berthynas rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn newid yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban;
2. Yn credu bod pobl Cymru yn sofran ac mai nhw ddylai benderfynu ar natur a chyflymder datblygiadau cyfansoddiadol yn y wlad hon; a
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar unwaith i hwyluso'r broses o drosglwyddo cyfrifoldeb dros swyddogaethau i Gymru, er mwyn ail-gydbwyso pwerau rhwng y cenhedloedd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'n fawr benderfyniad diamwys yr Alban i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan o'r Deyrnas Unedig i greu undeb cryfach at y dyfodol.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;
2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a
3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.
Mae Rhan 1 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf
Mae Rhan 2 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn:
|
5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5574 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r ffaith yr oedd pobl 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio yn y refferendwm diweddar ar annibyniaeth yr Alban, sef y tro cyntaf iddynt gael gwneud hynny mewn etholiad arwyddocaol yn y Deyrnas Unedig;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd grymuso pobl ifanc yng Nghymru i ymgysylltu â gwleidyddiaeth a chyfrannu eu safbwyntiau a'u syniadau i helpu i lunio'r cymunedau lle y maent yn byw;
3. Yn nodi adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn 2014 a ganfu nad yw 49% o bobl rhwng 16 a 17 oed yn y DU wedi cofrestru i bleidleisio ac yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth; a
4. Yn croesawu'r camau sy'n cael eu cynnig drwy Fil Cofrestru Pleidleiswyr y DU i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth drwy rymuso swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru i wella prosesau rhannu data a chynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Mae'r adroddiad 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain' ar gael yma:
http://www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0005/169889/Completeness-and-accuracy-of-the-2014-electoral-registers-in-Great-Britain.pdf (Saesneg yn unig)
Mae'r Bil Cofrestru Pleidleiswyr [HL] 2014-15 ar gael yma:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/voterregistration.html (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gwaith y mae'r Ddraig Ffynci wedi'i wneud dros nifer o flynyddoedd i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adfer y cyllid hwn. |
Cyfnod Pleidleisio |
6 Dadl Fer (30 munud) NDM5573 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Ansawdd mynediad - pwysigrwydd gofal plant o ran sicrhau bod teuluoedd incwm isel neu deuluoedd un rhiant yn gallu cael mynediad i'r gweithle |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Medi 2014